Neidio i'r cynnwys

Dora the Explorer

Oddi ar Wicipedia
Dora the Explorer
Enghraifft o:cyfres deledu animeiddiedig Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dechreuwyd14 Awst 2000 Edit this on Wikidata
Daeth i ben2015, 2019 Edit this on Wikidata
Genrecyfres deledu i blant, teledu addysgol, cyfres deledu antur Edit this on Wikidata
Olynwyd ganDora and Friends: Into the City! Edit this on Wikidata
CymeriadauDora Márquez Edit this on Wikidata
Yn cynnwysDora the Explorer, season 1, Dora the Explorer, season 2, Dora the Explorer, season 3, Dora the Explorer, season 4, Dora the Explorer, season 5, Dora the Explorer, season 6, Dora the Explorer, season 7, Dora the Explorer, season 8, Dora the Explorer, season 9, Dora the Explorer, season 10 Edit this on Wikidata
Hyd22 munud Edit this on Wikidata
Cyfarwyddwr/wyrGary Conrad Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuNickelodeon Animation Studio Edit this on Wikidata
DosbarthyddParamount Media Networks, Netflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata[1]
Dynodwyr
Freebase/M/01z_mj edit this on wikidata
QuoraDora-the-explorer edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymeriad animeiddiedig mewn cyfres deledu addysgol o'r Unol Daleithiau yw Dora the Explorer. Crewyd y cymeriad gan Chris Gifford, Valerie Walsh Valdes ac Eric Weiner. Daeth Dora the Explorer yn gyfres deledu yn 2000, ac mae'r rhaglen yn parhau ar rwydwaith deledu Nickelodeon, sy'n cynnwys sianel Nick Jr.. Darlledwyd fersiwn gyda throslais Sbaeneg am y tro cyntaf ym mis Medi 2006, fel rhan o floc Nick en español ar sianel Telemundo. Ers Ebrill 2008, mae'r fersiwn yma wedi parhau ar Univision fel rhan o'r bloc Planeta U.

Mae addasiad ffilm 'gweithredu byw' yn yr arfaeth gan Paramount Pictures a bwriedir ei rhyddhau ym mis Awst 2019.[2]

Mae'r gyfres yn seiliedig ar anturiaethau Dora, merch Latina saith mlwydd oed. Mae'n mynd ar drywydd perthnasol i weithgaredd sydd wedi cymryd ei sylw, a hynny yng nghwmni sach cefn porffor sy'n gallu siarad a mwnci o'r enw Boots (sydd wedi'i enwi ar ôl ei esgidiau coch). Mae pob pennod yn cyflwyno cyfres o weithgareddau neu ddigwyddiadau, ac mae disgwyl i Dora a Boots, gyda chymorth y gynulleidfa, ddatrys posau sy'n seiliedig ar rigymau, yr iaith Sbaeneg, neu gyfri.

O dro i dro, mae Dora yn dod ar draws Swiper, llwynog sy'n lladrata. Er mwyn ei atal, rhaid i Dora ddweud "Swiper no swiping" dair gwaith. Weithiau mae disgwyl i'r gynulleidfa helpu Dora a Boots i ddod o hyd i'r eitemau sydd wedi'u dwyn. Maen nhw weithiau yn gorfod wynebu hen ellyll blin - "Grumpy Old Troll" - sy'n byw o dan bont y mae'n rhaid iddyn nhw ei chroesi. Mae'r ellyll yn rhoi rhigwm iddyn nhw ei ddatrys, eto gyda chymorth y gynulleidfa, cyn eu bod yn cael croesi.

Mae pob pennod yn diweddu gyda Dora yn llwyddo i gyrraedd y nod, ac yn canu can o lawenydd gyda Boots. Mae'r gyfres wedi'i chyfieithu i nifer o ieithoedd, gan gynnwys Arabeg, Cantonaidd, Iseldireg, Gwyddeleg, Hindi, Daneg, Tyrceg. Nid yw wedi'i chyfieithu i'r Gymraeg.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ https://www.fernsehserien.de/dora. fernsehserien.de. retrieved: 25 Mehefin 2020. external ID: dora.
  2. ↑ Kit, Borys (23 Hydref 2017). "'Dora the Explorer' Movie in the Works With Nick Stoller (Exclusive)". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd October 23, 2017.