Neidio i'r cynnwys

Ecosystem

Oddi ar Wicipedia
Ecosystem
Wistman's Wood, coedwig law Geltaidd yn Nyfnaint, Lloegr.
Enghraifft o:math o system Edit this on Wikidata
Mathcyfundrefn o fewn bywydeg Edit this on Wikidata
Rhan obioregion, amgylchedd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysCadwyn fwyd, hunanborthwr, heterotroph, primary producer, consumer, cylch biogemegol Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02mhj edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF8629 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymdeithas o organebau mewn ecoleg sy'n cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreaduriaid byw eraill yn ogystal a'u hamgylchedd yw ecosystem.[1] Fel arfer, maent yn ffurfio cadwyni a gweoedd bwydydd.

Arthur Tansley oedd y gwyddonydd cyntaf a ddefnyddiodd y term ecosystem mewn traethawd ym 1935, ond roedd Roy Clapham yn defnyddio'r un term ym 1930 i ddisgrifo undeb creaduriaid gyda'u hamgylchedd.

Peth deinamig a chymhleth yw ecosystem ac mae egni a defnyddiau'n llifo ynddi. Mae ecosystemau mawr - er enghraifft coedwig gyfan - a bach - er enghraifft pwll. Fel arfer, mae rhwystrau fel anialwch, mynyddoedd neu foroedd rhwng ecosystemau, neu mae ecosystem yn system annibynnol, fel pwll neu afon.

Mewn ecosystem, mae cydbwysedd rhwng y creaduriaid, ond mae'n bosib fod amgylchedd yn newid neu greadur newydd yn dod i'r ecosystem yn dymchwel popeth ac o ganlyniad mae'n bosib fod llawer o greaduriaid neu hyd yn oed rhywogaethau yn marw.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑  ecosystem. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Medi 2026.