Neidio i'r cynnwys

Emma Raducanu

Oddi ar Wicipedia
Emma Raducanu
Ganwyd13 Tachwedd 2002 Edit this on Wikidata
Toronto Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Canada Canada
Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Baner Rwmania Rwmania
Alma mater
  • Newstead Wood School Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr tenis Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadLi Na, Simona Halep Edit this on Wikidata
Taldra1.75 metr Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn WTA, MBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm Cwpan Billie Jean King Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae Emma Raducanu (Rwmaneg: Emma Răducanu; ganwyd 13 Tachwedd 2002) yn chwaraewr tenis proffesiynol sy'n chwarae dros y Deyrnas Unedig. Mae hi wedi ennill tri theitl sengl ar Gylchdaith Tennis y Byd i Fenywod (Women's World Tennis Tour). Cyrhaeddodd safle chwaraewyr sengl uchaf ei gyrfa ar 11 Gorffennaf 2022 yn y 10fed safle.

Cafodd Raducanu ei geni yn Toronto, Ontario, Canada, yn ferch i Ion Răducanu o Bwcarést, Rwmania a Renée Zhai (Dongmei) o Shenyang, Tsieina.[1][2] Symudodd ei theulu i Brydain pan oedd hi'n ddwy flwydd oed.[3] Dechreuodd chwarae tenis yn bum mlwydd oed.[4] Cafodd ei haddysg yn Ysgol Newstead Wood, ysgol ramadeg ddethol ym Mwrdeistref Bromley yn Llundain.[5][6]

Daeth Raducanu i amlygrwydd yn 2021. Yn rhif 338 yn y byd, fe gyrhaeddodd y bedwaredd rownd ar ei hymddangosiad cyntaf fel cerdyn gwyllt ym Mhencampwriaethau Wimbledon 2021. [7] Fe helpodd hyn Raducanu i gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Hi oedd y chwaraewr cyntaf yn oes y cystadleuthau agored (open era) i ennill y twrnamaint ar ôl dod drwy'r rowndiau rhagbrofol yn hytrach na chael lle awtomatig drwy safle uchel.[8][9]

Ym mis Ionawr 2022, cafwyd dyn yn euog o stelcian Raducanu. Dywedodd ei bod yn ofni mynd allan ar ei phen ei hun.[10] Ym mhencampwriaeth senglau Wimbledon yn 2022, trechwyd hi yn yr ail rownd gan Caroline Garcia.[11]

Ym mis Mehefin 2026, collodd Raducanu yn rownd olaf Twrnamaint Clwb y Frenhines (Queen's Club) yn Llundain.[12] Hwn oedd ei pherfformiad gorau mewn twrnamaint mawr ers 2021. Bu'n rhaid iddi dynnu nôl o gystadleuaeth Wimbledon 2026 oherwydd anaf i asgwrn ei choes.[13]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Performanță uluitoare pentru Emma Răducanu. S-a calificat în finala de la US Open și a intrat în istoria tenisului VIDEO". Evenimentul Zilei (yn Romanian). 2021-09-10.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. ↑ "Emma Raducanu – Who is Britain's Chinese-Romanian teen tennis star?". South China Morning Post. Hong Kong. 2021-07-05.
  3. ↑ "Nothing to fear for Emma Raducanu in draw filled with intrigue". The Times (yn Saesneg). 5 Gorffennaf 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-05. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2021.
  4. ↑ "Emma Raducanu". WTA. Cyrchwyd 11 Medi 2026.
  5. ↑ "Introducing Wimbledon 2021's Grand Slam debutantes". Women's Tennis Association.
  6. ↑ Dinu, Remus (1 Gorffennaf 2021). "EXCLUSIV Emma Răducanu, dialog cu Gazeta Sporturilor după prima victorie a carierei la Wimbledon". Gazeta Sporturilor. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021. (Rwmaneg)
  7. ↑ "Brit Raducanu, 18, into Wimbledon 4th round". ESPN.com (yn Saesneg). 3 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2021.
  8. ↑ "Raducanu beats Bencic, becomes 1st qualifier to reach US Open semis in Open Era". Women's Tennis Association (yn Saesneg).
  9. ↑ Livaudais, Stephanie (11 Tachwedd 2021). "Qualifier Emma Raducanu completes 2021 US Open dream run". usopen.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Medi 2021. Cyrchwyd 12 Medi 2021.
  10. ↑ George Bowden (29 Ionawr 2022). "Emma Raducanu: Man found guilty of stalking British number one". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2022.
  11. ↑ Tumaini Carayol (29 Mehefin 2022). "Emma Raducanu out of Wimbledon after defeat by Caroline Garcia". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2022.
  12. ↑ "Emma Raducanu fights back from shocking start but loses Queen's final to Donna Vekic". theguardian.com (yn Saesneg). 14 Mehefin 2026. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2026. Cyrchwyd 14 Mehefin 2026.
  13. ↑ Jurejko, Jonathan (2026-06-28). "Wimbledon 2026: Emma Raducanu pulls out through injury". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-20.