Kelly Morgan
| Kelly Morgan | |
|---|---|
| Ganwyd | 22 Mai 1975 Pontypridd |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | chwaraewr badminton, Olympic competitor |
| Taldra | 178 centimetr |
| Pwysau | 65 cilogram |
| Gwobr/au | MBE, Welsh Sports Hall of Fame, national champion, Commonwealth Games champion |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | Cymru, y Deyrnas Unedig |
Chwaraewr badminton o Gymru yw Kelly Ann Aston MBE (neé Morgan, ganwyd 22 Mai 1975). Llwyddodd i ennill y fedal aur yng Ngemau Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur, Maleisia, ac roedd yn aelod o dîm Prydain Fawr yng Gemau Olympaidd yr Haf ym 1996, 2000 a 2004[1].
Gyrfa badminton
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Morgan chwarae badminton yn naw mlwydd gan fod ffrind i'w theulu wedi sefydlu clwb badminton[2]. Sicrhaodd ei lle yn nhîm Cymru ar ôl mynd i wylio ei brawd Ross yn y treialon[3].
Llwyddodd i ennill Senglau'r Merched ym Mhencampwriaeth Badminton Cymru am 13 blynedd yn olynol rhwng 1992 a 2004 yn ogystal â chipio chwe pencampwriaeth yng nghystadleuaeth Dyblau'r Merched a phedair pencampwriaeth Dyblau Cymysg. Cafodd ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1996 yn Atlanta, Unol Daleithiau America yng nghystadleuaeth y senglau a'r dyblau[1].
Yn Ebrill 1998 llwyddodd Morgan i ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Badminton Ewrop yn Sofia, Bwlgaria cyn cipio'r fedal aur yn senglau'r merched yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur, Maleisia.[2] Cafodd ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2000 yn Sydney, Awstralia lle llwyddodd i gyrraedd yr 16 olaf[4]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Ym 1999 cafodd Morgan ei henwi'n Merch Gymreig y Flwyddyn [3] ac yn 2002 cafodd ei hurddo ag MBE am "wasanaeth i'r gymuned, yn enwedig mewn chwaraeon yn ne Cymru".[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Sports Reference: Kelly Morgan". Sports-Reference. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-23. Cyrchwyd 2016-08-15.
- 1 2 "Q&A: Kelly Morgan". BBCSport. 2005-08-24.
- 1 2 Harris, Nick (2002-07-28). "Badminton: Morgan the Racket seeks action replay of greatest moment". The Independent.
- ↑ "Badminton at the 2000 Sydney Summer Games: Women's Singles Round Three". Sports-Reference. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-21. Cyrchwyd 2016-08-15.
- ↑ "MBEs: I – M". BBC News. 2002-06-14.