Mark Pembridge
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | Mark Pembridge | ||
| Dyddiad geni | 29 Tachwedd 1970 | ||
| Man geni | Merthyr Tudful, Cymru | ||
| Taldra | 1.73m | ||
| Safle | Canol Cae | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 1989–1992 | Luton Town | 70 | (6) |
| 1992–1995 | Derby County | 140 | (37) |
| 1995–1998 | Sheffield Wednesday | 108 | (13) |
| 1998–1999 | Benfica | 19 | (1) |
| 1999–2003 | Everton | 101 | (4) |
| 2003–2007 | Fulham | 54 | (2) |
| Cyfanswm | 492 | (63) | |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 1991–2004 | Cymru | 54 | (6) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Cyn chwaraewr pêl-droed o Gymru yw Mark Anthony Pembridge (ganed 29 Tachwedd 1970) chwaraeodd 333 o gemau ym mhrif adran Lloegr i Luton Town, Sheffield Wednesday, Everton a Fulham, gan sgorio 25 gôl a llwyddodd i ennill 54 cap dros Gymru rhwng 1991 a 2004.
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Pembridge ei yrfa gyda Luton Town yn Adran Gyntaf Y Gynghrair Bêl-droed gan ymuno â'r clwb pan yn 18 mlwydd oed. Roedd wedi ei argymell i'r clwb gan y sgowt o dde Cymry, Cyril Beach, oedd hefyd wedi bod yn gyfrifol am chwaraewyr fel John Hartson a Ceri Hughes yn ymuno â Luton.[1]
Ym 1992 ymunodd â Derby County am £1.2m[2] ond wedi tair blynedd ar y Baseball Ground, symudodd Pembridge i Sheffield Wednesday am £900,000.
Chwaraeodd Pembridge am dri tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr cyn ymuno â'i gyd Gymro, Dean Saunders yn Benfica lle roedd yr Albanwr, Graeme Sounness wedi cymryd yr awenau.[3] Methodd â chanfod ei draed ym Mhortiwgal a dychwelodd i Uwch Gynghrair Lloegr gan ymuno ag Everton am £800,000.
Dioddefodd Pembridge anafiadau lu yn ei gyfnod ar Barc Goodison ac er dychwelyd i chwarae'r rhan fwyaf o dymor 2002-03 symudodd i Fulham ar ddiwedd y tymor gan ymuno â'i gyd Gymro, Chris Coleman, oedd yn rheolwr ar y clwb.[4][5]
Cafodd ddechrau da i'w yrfa gyda Fulham gan sgorio yn y gêm ddarbi yn erbyn Chelsea[6] ond gydag anafiadau yn golygu mai pum gêm yn unig chwaraeodd Pembridge mewn dau dymor rhwng 2005 a 2007, cafodd ei ryddhau gan Fulham a cyhoeddedd ei ymddeoliad o bêl-droed.[7]
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Cafodd Pembridge ei gap cyntaf dros Gymru tra'n chwarae gyda Luton Town. Chwaraeodd mewn buddugoliaeth 1-0 dros Frasil ar Barc yr Arfau, Caerdydd.[8] Casglodd yr olaf o'i 54 cap yn erbyn Lloegr yn Hydref 2004[9] cyn cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol yn dilyn penodiad John Toshack fel rheolwr newydd Cymru.[10]
Gyrfa hyfforddi
[golygu | golygu cod]Ar ôl ymddeol o bêl-droed, teuliodd saith mlynedd fel hyfforddwr timau iau Fulham cyn gweithio gyda'r tîm cyntaf o dan reolaeth Kit Symons. Yn dilyn ymadawiad Symons, mae Pembridge wedi bod yng ngofal Academi Fulham.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mark Pembridge: Merthyr Boy Done Good!". Lost Boyos. lostboyos.wordpress.com.
- ↑ "Derby County: Sky nostrils are flaring, the transfer window must be opening again". Derby Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-31. Cyrchwyd 2016-04-04.
- ↑ "When Benfica welcomed a British invasion, but wished it hadn't". World Soccer. worldsoccer.com.
- ↑ "Everton FC: Mark Pembridge". Everton FC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-24. Cyrchwyd 2016-04-04.
- ↑ "Fulham Sign Pembridge". Fulham FC.[dolen farw]
- ↑ "Chelsea 2–1 Fulham". BBC.
- ↑ "Fulham release striker Radzinski". BBC.
- ↑ "Wales 1-0 Brazil". eu-football.info. eu-football.info.
- ↑ "England 2-0 Wales". eu-football.info. eu-football.info.
- ↑ "Toshack blasts retired quartet". Sky Sports.
- ↑ "Mark Pembridge". Fulham Official Website.