Neidio i'r cynnwys

Muhammadu Buhari

Oddi ar Wicipedia
Muhammadu Buhari
Arlywydd Nigeria
Yn ei swydd
29 Mai 2015 – 29 Mai 2023
Is-ArlywyddYemi Osinbajo
Rhagflaenwyd ganGoodluck Jonathan
Dilynwyd ganBola Tinubu
7fed Arweinydd Nigeria
Yn ei swydd
31 Rhagfyr 1983 – 27 Awst 1985
Rhagflaenwyd ganShehu Shagari
Dilynwyd ganIbrahim Babangida
Llywodraethwr Talaith y Gogledd-Ddwyrain
Yn ei swydd
Awst 1975 – Mawrth 1976
Rhagflaenwyd ganMusa Usman
Manylion personol
Ganwyd(1942-12-17)17 Rhagfyr 1942
Daura[1][2]
Bu farw13 Gorffennaf 2025(2025-07-13) (82 oed)[3]
Llundain
CenedligrwyddNigeriad
Plaid wleidyddolAll Progressives Congress
Priod
  • Safinatu Yusuf (1971–1988)
  • Aisha Halilu (1989–present)
Plant
Alma mater
  • Academi Amddiffyn Nigeria
  • Swyddog yn Ysgol y Cadetiaid
  • United States Army War College[4]
Gwefanthisisbuhari.com
Military service
Teyrngarwch Nigeria
Gwasanaeth/cangenByddin Nigeria
Blynyddoedd o wasanaeth1961–1985
RhengUwch-frigadydd

Gwleidydd o Nigeria oedd Muhammadu Buhari GCFR (17 Rhagfyr 1942 – 13 Gorffennaf 2025). Bu'n Arlywydd Nigeria rhwng 2015 a 2023.[5] Cyn ei benodi'n Arlywydd roedd yn Uwch-frigadydd ym myddin y wlad ac yn bennaeth y wladwriaeth rhwng 31 Rhagfyr 1983 a 27 Awst 1985 wedi i'r fyddin greu clymblaid milwrol (neu 'jynta') yn dilyn coup d'état gan y fyddin.[6][7] Defnyddir y term "Buharism" i ddisgrifio llywodraeth filwrol y cyfnod.[8][9]

Bu'n llwyddiannus yn etholiadau Arlywyddiaeth Nigeria yn 2003, 2007 a 2011. Yn Rhagfyr 2014 daeth i'r brig fel ymgeisydd yr All Progressives Congress ar gyfer etholiadau Mawrth 2015. Cafodd ei ethol yn Arlywydd, gan drechu Goodluck Jonathan. Dyma'r tro cyntaf i arlywdd yn Nigeria drosglwyddo'r awenau i arlywydd arall, heb ymyrraedd filwrol na threisiol ac o dan drefn ddemocrataidd a theg.[10]

Cafwyd beirniadaeth, dros y blynyddoedd, ei fod wedi mynd yn groes i hawliau dynol ei ddinasyddion, drwy garcharu'r rhai oedd yn ei wrthwynebu. fel ymateb i'r feirniadaeth hon, yn 2015, dywedodd y bydd yn dilyn llythyren y ddeddf ac y bydd pob Nigeriad yn cael mynediad i gyfiawnder y gyfraith ac y perchir hawliau dynol pob dinesydd y wlad.[11]

Bu farw, yn Llundain, yn 82 mlwydd oed.[12]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Muhammadu Buhari Presidential Candidate". thisisbuhari.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-15. Cyrchwyd 2015-02-08.
  2. ↑ "Muhammad Buhari". Enyclopaedia Britannica. Cyrchwyd 2015-02-08.
  3. ↑ "BREAKING: Former President Muhammadu Buhari dies in London". Vanguard Nigeria. 11 Gorffennaf 2025.
  4. ↑ "Famous U.S. Army War College Alumni". Ranker.com. Cyrchwyd 1 Ebrill 2015.
  5. ↑ Colin Freeman (31 Mawrth 2015). "Muhammadu Buhari claims victory in Nigeria's presidential elections". The Telegraph. Cyrchwyd 31 Mawrth 2015.
  6. ↑ "Military Regime of Buhari and Idiagbon". Cyrchwyd 12 Medi 2013.
  7. ↑ Max Siollun (Hydref 2003). "Buhari and Idiagbon: A Missed Opportunity for Nigeria". Cyrchwyd 12 Medi 2013.
  8. ↑ Sanusi Lamido Sanusi (22 Gorffennaf 2002). "Buharism: Economic Theory and Political Economy". Lagos. Cyrchwyd 12 Medi 2013.
  9. ↑ Mohammed Nura (14 Medi 2010). "Nigeria: The Spontaneous 'Buharism' Explosion in the Polity". Leadership (Nigeria). Cyrchwyd 12 Medi 2013.
  10. ↑ Buhari, Muhammadu (26 Chwefror 2015). Prospects for Democratic Consolidation in Africa: Nigeria's Transition (Speech). Chatham House, Llundain.
  11. ↑ "My contract with Nigeria – Buhari".
  12. ↑ "Former Nigerian leader Muhammadu Buhari dies aged 82". BBC News (yn Saesneg). 2025-07-13. Cyrchwyd 2025-07-13.