Neidio i'r cynnwys

Pierrot

Oddi ar Wicipedia
Pierrot
Enghraifft o:cymeriad pyped, cymeriad llenyddol, cymeriad theatrig, bod dynol ffuglennol Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0dh5_ edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymeriad stoc mewn pantomeim a commedia dell'arte yw Pierrot. Mae ei wreiddiau'n dyddio'n ôl i ddiwedd yr 17g yn y Théâtre-Italien ym Mharis.

Yn y theatr a diwylliant poblogaidd, mae Pierrot yn glown melancolaidd a diniwed sydd mewn cariad â Columbine; mae Columbine yn ei thro yn well ganddi Harlequin. Yn wahanol i'r cymeriadau eraill yn y ddrama, nid yw'n gwisgo mwgwd; yn lle hynny mae ei wyneb wedi'i orchuddio â phowdr gwyn. Mae'n ymddangos mewn blows gwyn llac gyda botymau mawr a llodrau gwyn llydan. Weithiau mae'n gwisgo het gonigol tebyg i gap twpsyn, ond yn amlach mae'n gwisgo cap corun du.

Daeth ffigur Pierrot i gael ei ddefnyddio yn aml gan artistiaid creadigol ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g fel symbol oedd yn cynrychioli rhai agweddau ar gyflwr dynol – yn enwedig fel ffigur truenus sy'n cynrychioli'r rhai sy'n byw ar ymylon cymdeithas.

Roedd gwisg Pierrot (fel gwisg Harlequin) yn boblogaidd mewn partïon gwisg ffansi ar un adeg, ac ym Mhrydain ddechrau'r 20g byddai holl aelodau cwmni o ddiddanwyr glan môr (pierotiaid) yn ei wisgo wrth ganu, dawnsio, jyglo ac adrodd jôcs.

Pierotiaid yn perfformio yn Harrogate, Swydd Efrog, yn gynnar yn yr 20g

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]