Neidio i'r cynnwys

Prosiect Al Baydha

Oddi ar Wicipedia
Prosiect Al Baydha
Enghraifft o:adfer natur, sefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2009 Edit this on Wikidata
LleoliadHijaz Edit this on Wikidata
SylfaenyddNeal Spackman, Haifa bint Faisal Edit this on Wikidata
GwladwriaethSawdi Arabia Edit this on Wikidata
RhanbarthMecca Province Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Mae Prosiect Al Baydha (Saesneg: Al Baydha Project; Arabeg: مشروع البيضاء "Y Prosiect Gwyn") yn gynllun amgylcheddol a chymdeithasegol tymor hir i adnewyddu tirwedd a bywyd trigolion ardal Al Baydha, sef dyffryn sydd 40 km i'r de ddwyrain o ddinas Meca yn Sawdi Arabia.

Nodweddion y prosiect

[golygu | golygu cod]

Lleolir Al Baydha mewn ardal wledig yn nhalaith Makkah, rhyw 50 km i'r de o ddinas grefyddol ac hanesyddol Meca. Trwy ddefnyddio dulliau paramaethu (permaculture) a chynllunio hydrolegol mae'n ymgeisio i:

  • adfywio'r tir (restoration)
  • lleihau tlodi
  • digeli diwylliant a threftadaeth

Mae dyffryn Al Baydha yn gorwedd wrth droed mynyddoedd yr Hijaz ac mae'n dir crin a charregog. Llwythi Bedwin yw mwyafrif trigolion yr ardal.[1][2]

Mae pwyslais y prosiect ac greu economi i drigolion Al Baydha sy'n gynaliadwy yn gymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae'r prosiect yn cynnwys elfen graidd o hyfforddiant, addysg a chyflogadwyedd y trigolion wrth wireddu ac adeiladu strwythurau ac uchelgais y prosiect.[3]

Sefydlwyd y Prosiect yn 2009 gan yr Americanwr a'r paramaethydd, Neal Spackman[4] a'r cyd-sefydlydd, Mona Hamdy,[5][6] Mae'r prosiect wedi dechrau gweld ffrwyth eu llafur yn ymarferol ac ecolegol.[7]

Yn 2016, derbyniodd Prosiect Al Baydha gymeradwyaeth gan y Tywysog Khaled Al Faisal o Sawdi Arabia, am y gwaith blaengar a wireddwyd gan y brodorion. Nodwyd bod y gwaith gan drigolion Al Baydha yn fodel o ragoriaeth cenedlaethol ym maes dyngarol, hunangynhaliol a blaengarwch.[8]

Nodweddion ecolegol

[golygu | golygu cod]

Uchelgais amgylcheddol Prosiect Al Baydha yw gwyrdroi diffeithio (desertification) drwy dduliau paramaethu. Y bwriad yw trawsffurfio'r ardal mewn i eco system savanna, drwy adfywioad naturiol, pori cadwriaethol (dim gor-bori) a thyfu coed, planhigion a strwythurau bydd yn lleihau anweddiad ac yn cynyddu lleither yn yr awyr.[9][10]

Gwneir hyn gan mwyaf drwy gynheiafu dŵr a hynny gan greu a defnyddio terasau creigiau a gabion (neu 'caergawell' - argaeau bychan i rwystro ac arafu, ond nid stopio, dŵr rhag llifo) yn ogystal â dal dŵr sy'n llifo i'r tir gwastad mewn llinellau traethbantiau (swales - pantiau neu ffosydd bas sy'n dilyn cyfuchlinau (contours) y tir). Mae'r rhain yn eu tro yn cefnogi coed sy'n wrthiannol i sychder, megis coed palmwydden ddatys. Bydd y mesurau yma, yn eu tro, yn helpu lliniaru effeithiau fflachlifau sy'n niweidio'r tirwedd ac yn gadael prin ddim dŵr ar ôl gan bod y llifogydd mor sydyn a nerthol nad yw'n sefyll ar y tir ac yn trylifo fewn i'r ddaear. Trwy wneud hyn bydd y fflachlifau yn y mynyddoedd yn cael eu harnesi i mewn i wadi (nant dymhorol).

Prosiectau tebyg

[golygu | golygu cod]

Ceir prosiect tebyg dan oruchwyliaeth y paramaethydd o Awstralia (a fu'n gynghorydd i Al Baydha), Geoff Lawton yng Ngwlad yr Iorddonen. Mae'r prosiect yn Wadi Rum, yn ne'r wlad ger y Môr Marw, wedi bod yn llwyddiant.[11]

Esboniadau ffilm o'r prosiect a'r technegau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ https://permacultureglobal.org/projects/286-al-baydha-project
  2. ↑ "Permaculture in Mecca - The Permaculture Research Institute". 18 Tachwedd 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-10. Cyrchwyd 2018-12-03.
  3. ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-17. Cyrchwyd 2018-12-03.
  4. ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-15. Cyrchwyd 2018-12-03.
  5. ↑ kharecom (23 Ionawr 2017). "In Dialogue with: Mona Hamdy @ NOVUS 2016" – drwy YouTube.
  6. ↑ "Mona Hamdy - THNK School of Creative Leadership".
  7. ↑ "Permaculture at the Al-Baydha Project in Saudi Arabia - Neal Spackman, Video 1 - The Permaculture Research Institute". 14 Ionawr 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-03. Cyrchwyd 2018-12-03.
  8. ↑ "الرئيسية - MBC.net". www.mbc.net.
  9. ↑ "Planting Days Are Here! (Al Baydha, Saudi Arabia) - The Permaculture Research Institute". 9 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-03. Cyrchwyd 2018-12-03.
  10. ↑ "20 months of growth on swales in Saudi Arabia: Two rainfalls since 2010 (greening the desert forum at permies)". www.permies.com.
  11. ↑ "From Desert to Oasis in 4 Years". 1 Chwefror 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-19. Cyrchwyd 2018-12-03.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]