Rein Me In
Cân gan Sam Fender ac Olivia Dean yw "Rein Me In", a dreuliodd 19 wythnos ar frig siart senglau'r DU yn 2026. Gwnaeth hynny hi'n sengl rhif un a fu ar y brig am y cyfnod hiraf yn hanes cerddoriaeth y DU. Mae'n fersiwn wedi'i hail-recordio o trac o'r albwm stiwdio Fender, People Watching. [1] Fe'i rhyddhawyd ym mis Mehefin 2025 fel sengl.
Daeth "Rein Me In" yn gân gyntaf Fender i gyrraedd rhif un ar Siart Senglau'r DU ym mis Chwefror 2026; wedi hynny treuliodd 19 wythnos heb fod yn olynol yn rhif un, gan ddod y sengl rhif un hiraf yn hanes cerddoriaeth y DU. [2][3] Enillodd hefyd Wobr Brit am Gân y Flwyddyn.[4] Y tu allan i'r Deyrnas Unedig, cyrhaeddodd "Rein Me In" frig y siartiau yn Awstralia ac Iwerddon hefyd a chyrhaeddodd rif dau yn Seland Newydd. Dyma oedd cofnod cyntaf Fender ar y Billboard Hot 100, gan gyrraedd uchafbwynt yn rhif 64.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, Sophie (20 Mehefin 2025). "Sam Fender Unveils 'Rein Me In' Collab With Olivia Dean: Listen Here". Billboard (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 January 2026.
- ↑ Smith, Carl (17 Gorffennaf 2026). "World Cup anthems roar up the Official Singles Chart despite England's heartbreaking semi-final defeat". Official Charts. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2026.
- ↑ Persad, Max (31 Gorffennaf 2026). "HISTORY IS MADE! Sam Fender and Olivia Dean's Rein Me In breaks 73-year record to become longest-running Official Number 1 single ever". Official Charts Company (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2026.
- ↑ Dunworth, Liberty (21 Ionawr 2026). "BRIT Awards 2026: here are all the nominees". NME (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Ionawr 2026.