Neidio i'r cynnwys

Zaz

Oddi ar Wicipedia
Zaz
FfugenwZaz Edit this on Wikidata
GanwydIsabelle Geffroy. Edit this on Wikidata
1 Mai 1980 Edit this on Wikidata
Chambray-lès-Tours Edit this on Wikidata
Label recordioPlay Two Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Conservatoire à rayonnement régional de Tours Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, artist recordio, chansonnier, cerddor Edit this on Wikidata
Arddullchanson, cerddoriaeth boblogaidd, canu gwerin, jazz, Gypsy jazz Edit this on Wikidata
Taldra1.62 metr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMusic Moves Europe Award, Victoire de la chanson originale de l'année Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://zazofficial.com/ Edit this on Wikidata

Cantores a chyfansoddwr o Ffrainc yw Zaz (ganwyd 1 Mai 1980), sy'n cymysgu arddulliau jazz, cerddoriaeth ysgafn Ffrengig, soul ac acwstig.[1] Ei henw iawn yw Isabelle Geffroy.[2]

Cafodd Zaz ei geni yn Tours, yn ferch i athrawes Sbaeneg a thrydanwr. Astudiodd yn y Conservatoire de Tours. Yn 2000 enillodd ysgoloriaeth ac astudiodd yn Ysgol Cerddoriaeth Fodern Bordeaux, y Centre d'Information et d'Activités Musicales (CIAM). Daeth yn aelod o'r band "Fifty Fingers" yn 2001, ac wedyn yn y band Izar-Adatz o Wlad y Basg.[3]

Un o'i chaneuon mwyaf adnabyddus yw "Je veux", o'i albwm cyntaf, Zaz, a ryddhawyd yn 2010.[4] Ymhlith ei chaneuon mwyaf poblogaidd ar Youtube mae; Qué vendrá a ryddhawyd yn hydref 2018 ac a welwyd gan 74 miliwn o bobl erbyn Mai 2022[5]; Eblouie par la nuit a ryddhawyd yn 2011 ac oedd wedi ei gwylio gan dros 54 miliwn erbyn Mai 2022[6]. Roedd ei fersiwn o gân a ganwyd gan Edith Piaf, "Sous le Ciel de Paris" ("Dan Awyr Paris") oedd wedi ei gwylio dros 16 miliwn o weithiau erbyn Mai 2020.[7] Erbyn Mai 2022 roedd ei chân "Imagine", a ryddhawyd ym mis Medi 2021, wedi ei gwylio dros 2.5 filiwn o weithiau ar Youtube.[8]

Albymau

[golygu | golygu cod]
  • Zaz (2010)
  • Recto Verso (2013)
  • Paris (2014)
  • Effet miroir (2018)
  • Isa (2021)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "interview et live de Zaz, chanteuse aux actualités A2" (yn Ffrangeg). 2424actu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-10. Cyrchwyd 28 Mai 2010.
  2. ↑ "Zaz: de saltimbanque chanteuse de rue... au sommet des charts !" (yn Ffrangeg). Purepeople. Cyrchwyd 28 Mai 2010.
  3. ↑ "Zaz n'a pas la voix dans sa poche". Respectmag. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-15. Cyrchwyd 5 Ionawr 2011. (Ffrangeg)
  4. ↑ "Zaz, un brillo en la canción francesa". El País. 23 Gorffennaf 2015.
  5. ↑ "Qué vendrá". Zaz Official. 12 Hydref 2018.
  6. ↑ "Eblouie par la nuit". Zaz Official. 11 Tachwedd 2011.
  7. ↑ "Sous le ciel de Paris". Zaz. 19 Ionawr 2015.
  8. ↑ "Imagine". Zaz. Cyrchwyd 9 Mai 2022.